[lang_en]Our Arts Outreach Coordinator, Erin Rickard, has developed and designed the first Locws International Art Resource Pack. The pack is designed to be used by educational establishments as well as by families and young people themselves. The first Resource Pack delivers a series of activities supporting interpretation and enjoyment of semi-permanent artwork
“Dylan’s Pencil” by Mark Folds sited at Cwmdonkin Park, Swansea.
This Resource Pack will be used as the template for future Resource Packs, and we would appreciate your comments and feedback. To access the Resource Pack please send an email to resourcepacks@artacrossthecity.com subject: “Mark Folds Resource Pack”, to receive a password that will give you full access to the PDF.
To view, print or download Mark Folds Resource Pack, click here: Locws Full Resource Pack Mark Folds
You will need a password to access this Resource Pack as it contains copyrighted text by Dylan Thomas which cannot be presented online without password protection. Future Resource Packs may not need to be password protected. To access the Resource Pack please send an email to resourcepacks@artacrossthecity.com to receive a password.
We hope that you will enjoy![/lang_en]
[lang_cy]Mae ein Cydlynydd Celfyddydol Estyn Mas, Erin Rickard, wedi datblygu a chynllunio Pecyn Adnoddau Celf cyntaf Locws Rhyngwladol. Mae’r pecyn wedi ei gynllunio i gael ei ddefnyddio gan sefydliadau addysgol, yn ogystal â chan deuluoedd a chan bobl ifanc eu hunain. Mae’r Pecyn Adnoddau cyntaf hwn yn cyflwyno cyfres o weithgareddau, gan gefnogi’r defnyddwyr i ddehongli a mwynhau gwaith celf lled-barhaol
“Dylan’s Pencil” gan Mark Folds sydd wedi ei leoli ym Mharc Cwmdoncin, Abertawe.
Bydd y Pecyn Adnoddau hwn yn cael ei ddefnyddio fel templed ar gyfer Pecynnau Adnoddau eraill yn y dyfodol, a byddem yn gwerthfawrogi eich sylwadau a’ch adborth. I gael mynediad at y Pecyn Adnoddau anfonwch e-bost at resourcepacks@artacrossthecity.com pwnc: “Pecyn Adnoddau Mark Folds”, er mwyn derbyn cyfrinair a fydd yn rhoi mynediad llawn i chi i’r PDF.
I weld, argraffu neu lawrlwytho Pecyn Adnoddau Mark Folds, cliciwch yma: Pecyn Adnoddau Llawn Locws Mark Folds
Bydd arnoch angen cyfrinair i gael mynediad at y Pecyn Adnoddau gan ei fod yn cynnwys testun gan Dylan Thomas sydd dan hawlfraint, na ellir ei gyflwyno ar-lein heb iddo fod wedi ei ddiogelu gan gyfrinair. Efallai na fydd angen i Becynnau Adnoddau’r dyfodol fod wedi eu diogelu gan gyfrinair. I gael mynediad at y Pecyn Adnoddau anfonwch e-bost at resourcepacks@artacrossthecity.com er mwyn derbyn cyfrinair.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau![/lang_cy]