[lang_en]
Artists announced for Locws International: Art Across the City 2011, Swansea
Swansea is preparing to host one of Wales’s most exciting and prestigious contemporary visual art events, ‘Locws International: Art Across The City’, which sees international artists create new contemporary artworks for public sites across the city.
The exhibition takes place from 16th April – 13th May 2011 with artists from the UK, Qatar, Wales and Europe creating new temporary artworks that are made as a direct response to the culture, heritage and landscape of the city. The artists are Simon and Tom Bloor, Alex Duncan, Laura Ford, Rhys Himsworth, Maider López and Bedwyr Williams.
The artists have all spent time in the city researching and getting inspiration for their projects and have come up with some very exciting and stimulating ideas. The new temporary artworks will all be displayed in accessible public spaces across the centre of the city and be free and open for all to view.
“This will be a really inspiring exhibition”, said Project Coordinator Erin Rickard. “We have invited a diverse group of artists to take part, all of whom have immense experience and talent in creating exciting and stimulating work. It’s a great opportunity for the city to showcase new work by these artists and particularly as each of the artworks responds to an aspect of Swansea’s culture or heritage. It will make the exhibition accessible to everyone, both physically and conceptually, giving everybody the chance to experience new contemporary art in an open and insightful way”.
In addition to the new works of art, there is an exhibition of artworks made by Swansea school pupils that responded to the last Art Across The City event as part of Locws International’s ‘Learning and Outreach Programme’. There will also be guided tours, talks and events that are free and open to all and an information point will be located at the National Waterfront Museum where free brochures and maps of all the exhibits are available.
For further information visit www.artacrossthecity.com.
Locws International works with international and Welsh contemporary artists to create new visual artworks and projects that respond to the culture and heritage of the City of Swansea. With support from The Arts Council of Wales, The Esmée Fairbairn Foundation, The City & County of Swansea, The Henry Moore Foundation, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales and The Christopher and David Lewis Trust.
//Ends
Notes to Editors:
Notes to Editors: For further information contact Erin Rickard, Project Coordinator on 01792 468979 or erin@locwsinternational.com/old
[/lang_en]
[lang_cy]
Artistiaid wedi’u cyhoeddi ar gyfer Locws Rhyngwladol: Celf ar Draws y Ddinas
Mae Abertawe’n paratoi i gynnal un o ddigwyddiadau celf weledol mwyaf cyffrous a mawreddog Cymru, ‘Locws Rhyngwladol: Celf ar Draws y Ddinas’, pan fydd artistiaid yn creu gweithiau celf cyfoes newydd ar gyfer safleoedd cyhoeddus ar draws y ddinas.
Cynhelir yr arddangosfa rhwng 16 Ebrill a 13 Mai 2011 gydag artistiaid o’r DU, Qatar, Cymru ac Ewrop, yn creu gweithiau celf newydd dros dro fel ymateb uniongyrchol i ddiwylliant, treftadaeth a thirwedd y ddinas. Yr artistiaid yw Simon a Tom Bloor, Alex Duncan, Laura Ford, Rhys Himsworth, Maider López a Bedwyr Williams.
Mae’r artistiaid i gyd wedi treulio amser yn y ddinas yn ymchwilio ac yn cael ysbrydoliaeth ar gyfer eu prosiectau ac wedi meddwl am rai syniadau cyffrous ac ysgogol iawn. Caiff y gweithiau celf newydd dros dro eu harddangos mewn mannau cyhoeddus hygyrch ar draws canol y ddinas a byddant am ddim ac yn agored i bawb eu gweld.
“Bydd hon yn arddangosfa ysbrydoledig iawn”, meddai Erin Rickard, Rheolwr y Prosiect. “Rydym wedi gwahodd grŵp amrywiol o artistiaid i gymryd rhan ac mae ganddynt brofiad a thalent aruthrol wrth greu gwaith cyffrous ac ysgogol. Mae’n gyfle gwych i’r ddinas arddangos gwaith newydd gan yr artistiaid hyn ac yn benodol am fod pob un o’r gweithiau celf yn ymateb i agwedd ar ddiwylliant neu dreftadaeth Abertawe. Bydd yn gwneud yr arddangosfa’n hygyrch i bawb, yn gorfforol ac yn gysyniadol, gan roi’r cyfle i bawb weld celf gyfoes newydd mewn ffordd agored a mewnweledol.”
Yn ychwanegol at y gweithiau celf newydd, bydd arddangosfa o weithiau celf a wnaed gan ddisgyblion ysgolion Abertawe a ymatebodd i ddigwyddiad diwethaf Celf ar Draws y Ddinas fel rhan o raglen dysgu ac allgymorth Locws Rhyngwladol. Hefyd, bydd teithiau tywys, sgyrsiau a digwyddiadau am ddim ac sy’n agored i bawb a bydd man gwybodaeth yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau lle mae llyfrynnau a mapiau o’r holl arddangosfeydd ar gael. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.artacrossthecity.com.
Mae Locws Rhyngwladol yn gweithio gydag artistiaid o Gymru a gweddill y byd i greu gweithiau celf a phrosiectau sy’n ymateb i ddiwylliant a threftadaeth dinas Abertawe. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Esmée Fairbairn, Dinas a Sir Abertawe, Sefydliad Henry Moore, Amgueddfa Cymru a Sefydliad Christopher a David Lewis.
//Diwedd
MNodyn i’r golygyddion: Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Erin Rickard, Cydlynydd y Prosiect ar 01792 468979 neu erin@locwsinternational.com/old
[/lang_cy]