Calum Stirling

[lang_en]Tilt-shift
National Waterfront Museum Garden, Oystermouth Road
stirling45

stirling41

stirling44

Working closely with the Amgueddfa Cymru– National Museum Wales’ ceramic collection, Calum Stirling has investigated Swansea’s famous Cambrian Pottery works and created a major installation based on pieces from the collection that were manufactured in Swansea. The blue painted scenes depicted on the plates, jugs and cups are recognisable landscapes that combine Chinese references with familiar British landscapes.
In his large-scale sculptural installation, Stirling has reconstructed these ‘imaginary’ landscapes, combining the fantasy depictions from the 1800s with familiar landmarks that can be found across Swansea today. The work is constructed like a theatrical set, through which viewers can navigate the scenery; immersing themselves in a landscape that could have come from China, Swansea or the depths of the imagination.
This project has been organised as part of Celf Cymru Gyfan–ArtShare Wales, Amgueddfa Cymru–National Museum Wales’ visual arts partnership scheme, generously funded by the Esmée Fairbairn Foundation.

[/lang_en]

[lang_cy]
Tilt-shift
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
stirling45

stirling41

stirling44

Wrth weithio’n agos â chasgliad cerameg Amgueddfa Genedlaethol Cymru, mae Calum Stirling wedi archwilio crochenwaith enwog Corchendy Cambrian Abertawe ac mae wedi creu darn mawr sy’n seiliedig ar weithiau o’r casgliad a gynhyrchwyd yn Abertawe. Mae’r golygfeydd sydd wedi’u darlunio mewn glas ar y platiau, y jygiau a’r cwpanau yn dirluniau cyfarwydd sy’n cyfuno cyfeiriadau Tsieineaidd â thirluniau cyfarwydd Prydain.

Yn y gosodiad cerfluniol mawr hwn, mae Stirling wedi ail-adeiladu’r tirluniau ‘dychmygol’ hyn gan gyfuno darluniau ffantasi’r 1800au â thirluniau cyfarwydd y gellir dod o hyd iddynt ledled Abertawe heddiw. Mae’r gwaith yn cael ei adeiladu fel set theatrig y gall gwylwyr lywio’r golygfeydd; gan ymgolli yn y tirlun a allai fod wedi dod o Tsieina, Abertawe neu yn nwfn y dychymyg.

Mae’r prosiect hwn wedi’i drefnu fel rhan o gynllun partneriaeth celf weledol Celf Cymru Gyfan–ArtShare Wales, Amgueddfa Cymru–Amgueddfa Genedlaethol Cymru, wedi’i ariannu’n hael gan Sefydliad Esmée Fairbairn.

Ganwyd Calum Stirling yng Nghaeredin ac mae’n byw ac yn gweithio yn Glasgow, yr Alban. Astudiodd gerflunwaith yng Ngholeg Celfyddydau Duncan of Jordanstone yn Dundee, yr Alban (1983-87).

Mae Stirling wedi arddangos ei waith yn helaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae wedi ymwneud â sawl comisiwn celf gyhoeddus nodedig a chyfnodau preswyl.

[/lang_cy]