Locws Schools 2007

[lang_en]

Locws Schools presented a parallel project based on Locws International 2007 with over 150 students from the Swansea area taking part. Led by artist David Marchant, the project offered opportunities for students to visit Locws International 2007 and be guided through the work. Inspired by this experience the students then produced a dynamic collection of site-specific artworks which were presented in their schools.


On the guided tours David discussed the ideas behind the artworks with the students and introduced them to some of the processes of making site-specific work. This provoked a wide range of responses from the students around contemporary political, social and cultural issues and provided inspiration for their own projects. Locws Schools saw the production of over 30 artworks in a wide range of media including sculpture, performance, video and photography.


The schools taking part in Locws Schools were Bishop Gore Comprehensive, Bishopston Comprehensive, Daniel James Community School, Pentrehafod Comprehensive, Penyrheol Comprehensive and Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe.


Locws Schools is run in conjunction with Arts in Education, City and County of Swansea.



[/lang_en]

[lang_cy]

Cyflwynodd Ysgolion Locws brosiect cyfochrog a seiliwyd ar Locws International 2007 gyda mwy na 150 o fyfyrwyr o ardal Abertawe’n cymryd rhan. Dan arweiniad yr artist David Marchant, rhoddodd y prosiect gyfle i fyfyrwyr ymweld â Locws International 2007 a chael eu tywys drwy’r gwaith. Wedi eu hysbrydoli gan y profiad hwn, aeth y myfyrwyr ati wedyn i gynhyrchu casgliad deinamig o weithiau celf safle-benodol a gyflwynwyd yn eu hysgolion.


Yn ystod y teithiau tywys, trafododd David Marchant y syniadau a oedd yn sail i’r gweithiau celf gyda’r myfyrwyr a’u cyflwyno i rai o’r prosesau o wneud gwaith safle-benodol. Denodd hyn ymatebion amrywiol iawn gan y myfyrwyr ynghylch materion gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol cyfoes, gan ysbrydoli eu prosiectau eu hunain. Yn ystod Ysgolion Locws cynhyrchwyd mwy na 30 o weithiau celf mewn cyfryngau amrywiol gan gynnwys cerfluniau, perfformiad, fideo a ffotograffiaeth.


Yr ysgolion a fu’n rhan o Ysgolion Locws oedd Ysgol Gyfun Esgob Gore, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, Ysgol Gymunedol Daniel James, Ysgol Gyfun Pen Trehafod, Ysgol Gyfun Penyrheol ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe.


Trefnir Ysgolion Locws ar y cyd â’r Celfyddydau mewn Addysg, Dinas a Sir Abertawe.



[/lang_cy]