[lang_en]Take Part in New Artwork at Morriston Hospital[/lang_en][lang_cy]Cymryd Rhan yn Gwaith Celf yn Ysbyty Treforys[/lang_cy]

[lang_en]We are offering the opportunity for school learners to take part in the production of a new public artwork at Morriston Hospital and very much hope that your school will take part.

In partnership with Abertawe Bro Morgannwg University Health Board we are asking local learners to create colourful elements of the new artwork that will be sited on a section of hoardings around a new development at the centre of the hospital. We are looking for bold, colourful artworks that will make a vibrant and striking display, appealing to patients, staff and visitors, while the area is undergoing redevelopment.

To enable your school learners to take part, please print out the artwork templates below and invite your learners to colour in, draw on or paint on them either by hand or using a computer. The templates can be done at A4 or A3 as required. Please write the learner’s name and school on the back of each page they do. The look of the finished template artworks are up to each participant but the colourful designs at the bottom of this page could be used as inspiration. Why not ask your learners to think of themes inspired by where they live, their favourite places or things?

NB: This is open to all key stages

A selection of the finished template artworks will be chosen to develop the final mural, which will be scaled up, printed on to panels and fixed to the hoardings at Morriston Hospital. The artwork will be installed in July 2017. Each school which has designs selected will be invited to the hospital to celebrate the results and will be credited on the Art Across The City website and related publicity material.

The deadline for finished artworks to be returned to us is Monday May 22nd, please send by post to: Art Across The City, PO Box 127, Swansea SA3 9BF

or by email to info@artacrossthecity.com

This is a great opportunity for your learners to be involved in making an exciting public artwork which will in turn benefit local people who use Morriston Hospital. We hope you will be interested in participating and we look forward to receiving your artworks.[/lang_en]
[lang_cy]
Rydym yn cynnig cyfle i ddisgyblion ysgol gymryd rhan yn cynhyrchu gwaith celf cyhoeddus newydd yn Ysbyty Treforys ac yn gobeithio’n fawr y bydd eich ysgol yn cymryd rhan.

Mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg rydym yn gofyn i ddisgyblion lleol greu elfennau lliwgar ar gyfer darn newydd o waith celf a fydd yn cael ei osod ar ran o’r parwydydd pren o amgylch datblygiad newydd yng nghanol yr ysbyty. Rydym yn chwilio am weithiau celf beiddgar, lliwgar a fydd yn creu arddangosfa fywiog a thrawiadol, a fydd yn apelio at gleifion, staff ac ymwelwyr, tra bydd yr ardal hon yn cael ei hailddatblygu.

Er mwyn galluogi eich disgyblion ysgol i gymryd rhan, argraffwch dempledi’r gwaith celf (maent ynghlwm isod neu ar gael i’w lawrlwytho o www.locwsinternational.com/morristonmural
) a gwahoddwch eich disgyblion i liwio, tynnu llun neu baentio arnynt, naill ai â llaw neu yn defnyddio cyfrifiadur. Gellir argraffu’r templedi mewn maint A4 neu A3 yn ôl y gofyn.
Ysgrifennwch enw’r disgybl ac enw’r ysgol ar gefn pob dalen a wnânt. Mater i bob cyfrannwr unigol fydd diwyg eu templedi gwaith celf gorffenedig ond rydym hefyd wedi cynnwys rhai adnoddau gweledol ar-lein i roi syniadau i chi yn www.locwsinternational.com/morristonmural.
Beth am ofyn i’ch dysgwyr feddwl am themâu sydd wedi eu hysbrydoli gan ble maent yn byw, eu hoff lefydd neu bethau?

DS: Mae’r cynnig yn agored i ddisgyblion o bob cyfnod allweddol

Caiff detholiad o’r templedi gwaith celf gorffenedig eu dewis er mwyn datblygu’r murlun terfynol, a byddant yn cael eu chwyddo, a’u hargraffu ar baneli a’u gosod ar y parwydydd pren yn Ysbyty Treforys. Bydd y gwaith celf yn cael ei osod yn ei le ym mis Gorffennaf 2017. Bydd pob ysgol y dewiswyd dyluniadau rhai o’u disgyblion yn cael eu gwahodd i’r ysbyty i ddathlu canlyniad y gwaith ac yn cael eu rhestru ar wefan Celf ar Draws y Ddinas ac ar ddeunyddiau cyhoeddusrwydd cysylltiedig.

Y dyddiad cau ar gyfer anfon y gwaith celf gorffenedig atom yw dydd Llun 22 Mai, anfonwch drwy’r post at: Celf ar Draws y Ddinas, Blwch Post 127, Abertawe SA3 9BF
neu drwy e-bost i info@artacrossthecity.com

Mae hwn yn gyfle gwych i’ch disgyblion fod yn rhan o greu gwaith celf cyhoeddus cyffrous a fydd yn ei dro o fudd i bobl leol sy’n defnyddio Ysbyty Treforys. Gobeithio y bydd gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich gweithiau celf.[/lang_cy]

Download the templates here:

[zilla_column column=”one-half”]Artwork Flower 1 – A3
Artwork Flower 1 – A4[/zilla_column][zilla_column column=”one-half” last=”true”]Artwork Butterfly – A3
Artwork Butterfly – A4[/zilla_column]

[zilla_column column=”one-half”]Artwork Bee – A3
Artwork Bee – A4[/zilla_column][zilla_column column=”one-half” last=”true”]Artwork Flower 2 – A3
Artwork Flower 2 – A4[/zilla_column]

Here are some previous template designs that might offer inspiration to your learners:

[zilla_column column=”one-half”][/zilla_column][zilla_column column=”one-half” last=”true”][/zilla_column]

[zilla_column column=”one-half”][/zilla_column][zilla_column column=”one-half” last=”true”][/zilla_column]

[zilla_column column=”one-half”][/zilla_column][zilla_column column=”one-half” last=”true”][/zilla_column]